Article

Ardystio ewyllysiau – y ffordd ymlaen gyda thechnoleg newydd

14 September 2020

Yn sgil Covid-19, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y cleientiaid sy’n dod atom er mwyn drafftio eu hewyllysiau. Eleni, am y tro cyntaf ers 1837, mae newidiadau wedi eu gwneud i’r ffordd y caiff ewyllysiau eu hardystio gan fod y pandemig wedi arwain at newid (ôl-weithredol) i’r gyfraith.

Mae’n rhaid i’r sawl sy’n gwneud yr ewyllys ei harwyddo ym mhresenoldeb dau dyst, sydd, yn eu tro, yn arwyddo’r ddogfen eu hunain ym mhresenoldeb y sawl sy’n gwneud yr ewyllys a’r tyst arall. Gan fod mesurau llym mewn grym bellach o ran ymbellhau cymdeithasol, roedd unigolion yn poeni am gyfarfod gyda’u tystion (gan nad ydynt, fwy na thebyg yn rhan o’u haelwydydd estynedig) er mwyn arwyddo eu hewyllys.

Mae angen cymryd gofal wrth ddewis eich tystion. Pe byddech eisiau rhoi rhodd i rywun yn eich ewyllys, ond yn eu dewis fel tyst, byddai hyn yn eu hatal rhag gallu derbyn y rhodd o dan yr ewyllys.

Mae’r newid i’r gyfraith yn golygu y gellir ardystio arwyddo ewyllys gan ddefnyddio cyfleusterau cynadledda megis Skype, Zoom neu Facetime. Yna gellir anfon yr ewyllys wedi ei harwyddo i’r tystion, er mwyn iddynt ei harwyddo, eto ym mhresenoldeb y sawl sy’n gwneud yr ewyllys a’r tyst arall, gan ddefnyddio’r cyfleuster fidio a ffafrir.

Mae rhai o fewn proffesiwn y gyfraith wedi croesawu’r newid hwn, gan ddweud ei fod yn dangos fod pethau’n symud yn eu blaen, yn dangos synnwyr cyffredin syml ac, yn 2020, yn bragmatig. Fodd bynnag, mae eraill yn gweld y newid yn un peryglus, a allai arwain at gynnydd yn nifer yr ystadau y mae anghydfod yn eu cylch yn y dyfodol.

Yn wir, nid yw hyn heb ei beryglon – mae’n bosib y bydd y newid yn arwain at oedi wrth i’r ddogfen gael ei hanfon o un i’r llall i gael ei harwyddo er enghraifft. Cofiwch, ni fydd yr ewyllys yn ddilys oni bai bod y sawl sy’n gwneud yr ewyllys a’r ddau dyst wedi ei harwyddo.

Byddem yn eich cynghori i gael sgwrs â chyfreithiwr pan fyddwch yn barod i wneud eich ewyllys. Mae ein tîm ymroddedig wrth law i’ch helpu drwy’r broses hon ac mae ein swyddfeydd, sy’n ddiogel o ran Covid, ar agor ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Ond, os ydych yn hunan ynysu, yn rhywun sy’n cysgodi neu’n ceisio lleihau’r cyswllt yr ydych yn ei gael gydag eraill, gallwn gwrdd â chi dros gynhadledd fidio neu dros ffôn arferol (teclyn sy’n eithaf hen ffasiwn erbyn hyn).

Related Blogs

View All