Article

Brexit – beth mae’n golygu i allforion cig oen ac eidion yn ogystal ag i safonau cig?

19 October 2020

Y tu hwnt i 1 Ionawr 2021 bydd perthynas fasnach newydd gyda’r UE a gweddill y byd yn cychwyn – nid yw hwn mewn lle eto ac os bydd Brexit heb fargen neu “no deal”, gallai da byw o’r DU wynebu tariffau uchel fydd yn chwyddo’r pris allforio i mewn i’r UE. Gall hyn arwain at greu’r risg o alw isel iawn yn Ewrop am nwyddau’r DU.

Mae adroddiadau ac ymchwil amrywiol wedi dangos y gallai diwydiant cig eidion a defaid y DU wynebu tariffau o hyd at 65% a 46% (yn y drefn honno) o werth cyfanwerthol, os na ellir cytuno ar fargen fasnach. Gallai pris cig defaid yn unig ostwng o 24%. Mae canfyddiadau yn dangos y byddai’r effaith ar y fasnach o dan senario Brexit “gyda bargen” yn gymharol fach, gyda  gostyngiad mewn allforion o tua 1%. Tra bod disgwyl i allforion i’r UE o gig eidion ac oen mewn sefyllfa heb fargen ostwng o 92.5%.

Mae pwysau ers tro ar y llywodraeth i sicrhau na fydd mewnforion cig o ansawdd isel yn disodli cig eidion yn y farchnad Brydeinig. Mae Minette Batters, llywydd yr NFU, yn pwyso ar y llywodraeth i wneud ymrwymiad, wedi’i ysgrifennu mewn cyfraith, i ddiogelu ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd ym Mhrydain rhag effaith niweidiol mewnforion bwyd nad yw’n cyrraedd safonau uchel y DU.

Daeth y Mesur Amaethyddiaeth gerbron Tŷ’r Arglwyddi, a bleidleisiodd am welliant a fyddai yn y pen draw, pe byddai wedi cael ei fabwysiadu, yn sicrhau bod yn rhaid i fewnforion bwyd gydymffurfio â safonau domestig. Fodd bynnag, cafodd ei wrthod gan Dŷ’r Cyffredin ym mis Mai. Os bydd yn cael ei wrthod eto, gallai’r Comisiwn Masnach ac Amaeth sydd newydd ei sefydlu gan y llywodraeth gynnig rhywfaint o obaith i ffermwyr. Ei rôl fydd cynghori’r llywodraeth ar yr effaith y byddai cytundeb masnach yn y dyfodol yn ei gael ar gynnyrch o Brydain. Amser a ddengys wrth gwrs faint o hyder y gallwn ei gael yn y corff newydd hwn.

Heb amheuaeth mae gan y cyhoedd lefel uchel o hyder mewn cynnyrch Prydeinig a does dim awydd gan ddefnyddwyr i weld y safonau hyn yn gostwng. Yn amlwg mae ein cleientiaid ni yn y sector amaeth yn falch iawn o ansawdd eu cynnyrch. Er bod effeithlonrwydd cynhyrchu a rheoli eich busnes ffermio o ddydd i ddydd bob amser i’w annog, byddai gwneud newidiadau sydyn i’ch arferion busnes nawr yn annoeth o bosib.

Ynghyd â chael gwared ar gefnogaeth cymhorthdal yn raddol a chyflwyno’r dull o ariannu amaeth ‘Rheoli Tir Amgylcheddol’ (ELM), mae cyfle, sydd ar yr un llaw yn frawychus ond ar y llaw arall yn gyffrous, i ffermio Prydeinig i weithredu o fewn fframwaith polisi domestig. Mae’r dyfodol yn parhau i fod yn ansicr, sy’n wneud cynllunio yn anoddach nag erioed.

Wrth i ddiwedd y cyfnod trosglwyddo agosáu, bydd ffermwyr a pherchnogion tir yn edrych ar  gynigion ac unrhyw fargen gan y llywodraeth yn ofalus. Os gall ein tîm amaethyddiaeth a materion gwledig arbenigol eich helpu chi, wrth i chi gynllunio ymlaen llaw, cysylltwch â Bryn Thomas ar [email protected] neu ar 07715 060 321.

Yn ein herthygl nesaf, edrychwn yn fanylach ar yr hyn y gallai’r Bil Amaeth ac ELM ei olygu o ran defnydd tir yn y dyfodol a beth yw’r farn am gynllun ffermio cynaliadwy dros dro’r llywodraeth.

Related Blogs

View All