Article

Gwedd newydd cyfraith landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru

14 August 2020

 

 

Mae Cymru nid yn unig wedi dilyn ei llwybr ei hun yn ystod pandemig Covid-19, ond mae ei deddfwriaeth ar gyfer landlordiaid a thenantiaid hefyd yn gwyro’n raddol oddi wrth y gyfraith yn Lloegr. I’r rheini sydd ag eiddo bob ochr i’r ffin, yn eiddo preswyl neu fasnachol, mae’n werth ystyried y newidiadau hyn wrth i’r farchnad eiddo ddechrau ddod allan o gyflwr disymud, gobeithio.

Landlordiaid Preswyl

Mae creu’r awdurdod Rhentu Doeth Cymru a gyflwynwyd yn sgil Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob perchennog preifat o eiddo preswyl (sy’n cynnwys ‘eiddo defnydd cymysg’) gofrestru fel landlord, wedi cwblhau cwrs yn dangos eu bod yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau dan y ddeddfwriaeth.

Mae hyn yn hanfodol ac mae’n berthnasol hyd yn oed os ydych yn defnyddio asiant i reoli’r eiddo. Gellir gwirio landlordiaid (a’u tenantiaid) drwy gofrestr gyhoeddus. Gallai peidio â chofrestru eiddo pan fydd wedi’i osod ddenu cosbau sylweddol ac mae’n drosedd. Yn ogystal, hyd nes byddant wedi cofrestru, ni fyddai landlordiaid yn medru cyflwyno rhybuddion adran 21 dilys i ddirwyn tenantiaeth i ben ac adennill meddiant o’u heiddo.

Hawliau tenantiaid preswyl

Ers 13 Rhagfyr y llynedd, mae’n rhaid darparu’r isod (yn ysgrifenedig) i bob tenant arfaethedig o eiddo preswyl cyn iddynt dalu eu blaendal i gadw’r eiddo:

  • Swm y blaendal i gadw’r eiddo
  • Adnabod yr annedd y mae’r blaendal yn cael ei dalu ar ei chyfer
  • Enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac unrhyw gyfeiriad e-bost y landlord (ac os cânt eu cyfarwyddo, yr asiant gosod)
  • Natur a hyd y contract
  • Dyddiad meddiannu arfaethedig
  • Swm y rhent neu ystyriaeth arall
  • Cyfnod rhentu
  • Unrhyw delerau contract ychwanegol arfaethedig neu addasiadau neu eithriadau arfaethedig i delerau sylfaenol neu ychwanegol
  • Swm unrhyw flaendal diogelwch
  • P’un a oes angen gwarantwr ac, os felly, unrhyw amodau perthnasol
  • Y gwiriadau geirda y bydd y landlord (neu’r asiant gosod) yn ymgymryd â nhw.

Mae mwy o newidiadau i ddod dan y Ddeddf Rhentu Tai (Cymru) 2016, nad yw wedi’i gweithredu eto – bydd yn gwneud newidiadau sylfaenol i gyfraith ac ymarfer tai yng Nghymru a bydd yn weithredol ar unwaith, nid i denantiaethau yn y dyfodol yn unig, ond hefyd i fwyafrif llethol y tenantiaethau a’r trwyddedau preswyl presennol.

Er mai bwriad cyffredinol y Ddeddf yw symleiddio’r gyfraith a’r broses gosod bresennol a darparu fframwaith cyfreithiol clir, mae gwahaniaethau allweddol ar hyn o bryd yn y sail dros adfeddiannu – dylai landlordiaid a derbynwyr gymryd sylw, yn arbennig.

Cymryd meddiant

Nid yw’r Ddeddf yn cynnwys y ddwy sail dros feddiannaeth sy’n bodoli yn y ddeddfwriaeth gyfredol ar gyfer Cymru a Lloegr (Deddf Tai 1988); y cyntaf yw gallu benthycwr i gamu i mewn a chymryd meddiannaeth gwag os yw landlord wedi disgyn i ôl-ddyledion morgais ac mae’r ail yn berthnasol pan fo gan denant wyth wythnos neu fwy o ôl-ddyledion.

Ffioedd a threthi

Mae ffioedd gosod ar gyfer tenantiaid arfaethedig bellach wedi’u gwahardd yng Nghymru a Lloegr (rhaid i unrhyw gostau gosod gael eu talu gan y landlord nawr), ond mae perchnogion eiddo yn Lloegr yn dal i wynebu Treth Tir Toll Stamp (SDLT), tra bod y Treth Trafodiadau Tir wedi disodli’r SDLT yng Nghymru. Bellach, mae gwahaniaethau yn nhermau faint o doll sy’n daladwy, yn ogystal â gwahaniaethau bychan yn nhermau’r rhyddhad sydd ar gael i’r rheini sy’n prynu eiddo neu’n cymryd les masnachol am eiddo yng Nghymru.

Related Blogs

View All