A all Tribiwnlys Cyflogaeth wrthdroi gorchymyn i ddiystyru achos ar sail camymddwyn cyfreithiwr?
11 July 2023
Yr ateb i hyn yw gall, meddai’r Llys Apêl yn Phipps v Priory Education Services Ltd [2023] EWCA Civ 652, ar yr amod ei fod yn angenrheidiol er budd cyfiawnder.
Cefndir
Yn 2017, cyflwynodd yr hawlydd, Mrs Lynn Phipps, hawliad am ddiswyddo annheg, gwahaniaethu ar sail oedran ac anabledd, aflonyddu, erledigaeth, “triniaeth llai ffafriol”, a “thorri contract yn sylfaenol”.
Ar 8 Mawrth 2018, dim ond un diwrnod gwaith clir cyn i’r gwrandawiad terfynol ddechrau, fe ffeiliodd ei chyfreithiwr, Mr Johnstone o One Assist Legal Services (OALS), gais i ohirio ar y sail ei fod ef, y cynrychiolydd cyfreithiol, wedi dioddef “argyfwng meddygol”, sef haint ar yr ymennydd.
Caniatawyd y cais. Fodd bynnag, gorchmynnodd y Tribiwnlys Cyflogaeth (ET) i Mr Johnstone ddarparu tystiolaeth feddygol i ddangos tri pheth:
- Nad oedd yn ffit i fynychu’r gwrandawiad ar 12 Mawrth
- Diagnosis o’i gyflwr
- Pa mor hir na fyddai’n ffit i fynychu unrhyw wrandawiad.
Er y cynhyrchwyd llythyr meddygol ar 9 Mawrth 2018, nid oedd yn cydymffurfio â’r gorchymyn.
Ailrestrwyd y gwrandawiad terfynol ar gyfer 7 – 10 Ionawr 2019, ac anfonwyd llythyr dilynol at Mr Johnstone ar 9 Ebrill 2018 yn gofyn am y dystiolaeth feddygol oedd yn weddill.
Rhwng 9 Ebrill 2018 a 4 Ionawr 2019, cafodd nifer o lythyrau rhybudd diystyru eu hanfon at Mr Johnstone, ond ni wnaed unrhyw ymdrechion dilys i gydymffurfio â’r gorchymyn. O ganlyniad, ar 4 Ionawr 2019, cyhoeddodd yr ET benderfyniad ysgrifenedig i ddiystyru’r hawliad.
Ar 14 Ionawr 2019, gwnaeth yr hawlydd gais i’r ET i ailystyried penderfyniad 4 Ionawr 2019 ar y sail:
- Na chymerodd OALS unrhyw gamau i baratoi ar gyfer gwrandawiad 12 Mawrth 2018,
- Nad oedd hi ddim yn gwybod am y cais i ohirio,
- Nad oedd hi ddim yn gwybod am orchymyn 9 Mawrth 2018,
- Nad oedd hi ddim yn gwybod am y rhybuddion i ddiystyru, na methiant OALS i ymateb iddynt,
- Nad oedd hi ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd gyda’i hawliad tan ar ôl iddo gael ei ddiystyru, ac
- Roedd hi wedi cael ei thwyllo gan OALS a’u bod wedi dweud celwydd wrthi ac roedd hyn wedi’i gwneud hi’n amhosibl iddi siarad â nhw.
Penderfyniad y Tribiwnlys Cyflogaeth a’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth
Yn eu dyfarniadau dyddiedig 3 Gorffennaf 2019 a 6 Hydref 2021 yn y drefn honno, gwrthododd yr ET a’r EAT gais yr hawliwr i ailystyried ar y sail nad oedd “er budd cyfiawnder” i wneud hynny.
Roedd yr ET hefyd yn dibynnu ar achos Lindsay v Ironsides Ray and Vials [1994] ICR 381, sy’n nodi na fydd methiannau cynrychiolydd parti yn gyffredinol yn sail i’w hadolygu.
Yn dilyn hyn, apeliodd Mrs Phipps i’r Llys Apêl.
Penderfyniad y Llys Apêl
Yn ei ddyfarniad dyddiedig 9 Mehefin 2023, gwrthododd y Llys Apêl (CoA) benderfyniadau’r ET a EAT a diddymu’r gorchymyn i ddiystyru. Roedd hyn oherwydd:
- “Digwyddodd y diystyru yn gyfan gwbl oherwydd ymddygiad amhriodol cynrychiolydd yr hawlydd
- Fel y darganfu’r ET, nid oedd yr hawlydd yn gysylltiedig â’r camymddwyn hwn ac nid oedd ganddi unrhyw wybodaeth am yr hyn oedd yn digwydd nes iddi dderbyn y penderfyniad i ddiystyru.
- Gwnaed y cais i ailystyried o fewn 10 diwrnod i’r penderfyniad i ddiystyru
- Nid oedd yr hawlydd ar unrhyw adeg wedi cael cyfle teg i gyflwyno ei hachos
- Roedd unrhyw ateb arall tybiedig yn ffansïol.”
Roedd y ffactorau hyn yn drech na budd y cyhoedd mewn ymgyfreitha terfynol, a’r anghyfiawnder i’r cyflogwr o gael adfer yr achos. Felly, caniatawyd yr apêl a diddymwyd y gorchymyn i ddiystyru.
Yn ddiddorol, ym mharagraff 43 o’i ddyfarniad, gwahoddodd y CoA Lywydd Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yng Nghymru a Lloegr i ystyried “newid cymedrol mewn ymarfer”, a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i’r tribiwnlys anfon llythyrau rhybudd diystyru at y parti yn bersonol, yn ogystal ag at eu cynrychiolydd cyfreithiol.