Article

A yw hanes eich bywyd ar-lein? Dibyniaeth ar gyfryngau cymdeithasol mewn achosion teuluol

11 July 2023

 

Ei hoffi neu beidio, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhan annatod o gymdeithas fodern.

Er bod manteision diamheuol o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, fel cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, mae’n hanfodol bod defnyddwyr yn ymwybodol o’r risgiau cysylltiedig. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach i’r defnyddwyr hynny sy’n digwydd bod yng nghanol achosion teuluol.

Mae’r llysoedd teulu yn gweld mwy a mwy o ddibyniaeth gan bartïon ar dystiolaeth sy’n cael ei thynnu o’r cyfryngau cymdeithasol o fewn camau unioni ariannol ac achosion plant. Gall hyn fod yn dystiolaeth ffotograffig o arferion gwario’r parti arall, e.e. gwyliau diweddar dramor, neu gipiad sgrin o bost difrïol a wnaed gan un parti am y llall.

Gallai fod hyd yn oed, fel yr oedd yn wir mewn mater diweddar y cefais fy nghyfarwyddo ynddo, tystiolaeth bod parti wedi dyweddïo ac yn bwriadu (ail)briodi, er bod eu sefyllfa i’r llys yn nodi eu bod yn sengl. Yn y mater penodol hwn, dim ond yn sgil cael cipolwg cyflym ar broffiliau cyfryngau cymdeithasol cyhoeddus amrywiol y parti arall y daeth y wybodaeth bwysig hon i’r amlwg. Wrth gwrs, cryfhaodd y dystiolaeth hon safbwynt fy nghleient o fewn yr achos ac yn y pen draw chwaraeodd ran wrth iddo gael y canlyniad yr oedd yn ei ddymuno.

Mae’r achos hwn yn rhybudd bod rhai postiadau cyfryngau cymdeithasol nid yn unig yn peryglu’r embaras o drafod gwybodaeth breifat yn y llys, ond gallent hefyd fod yn niweidiol i amddiffyniad un parti, a bod â goblygiadau cost sylweddol.

Os ydych yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ceisiwch ystyried y rheolau aur isod:

  • Gwiriwch eich gosodiadau preifatrwydd – cyfyngwch eich cynulleidfa i’r rhai yr ydych am rannu eich gwybodaeth â nhw yn unig
  • Siaradwch â’ch teulu a’ch ffrindiau – dim ond eich proffiliau cyfryngau cymdeithasol eich hun y gallwch chi eu rheoli, felly gwnewch eich gorau i sicrhau bod eich teulu a’ch ffrindiau’n ymwybodol pan fyddant yn postio unrhyw beth sy’n gysylltiedig â chi, ar eu proffiliau
  • Dewch o hyd i wahanol fecanweithiau ymdopi – gall achosion teuluol fod yn ofidus, ac mae pobl yn aml yn troi at gyfryngau cymdeithasol i ddadlwytho. Yn syml, peidiwch â gwneud hynny!
  • Byddwch yn synhwyrol – os na fyddech am i’ch post fod yn destun trafodaeth mewn llys, peidiwch â’i bostio.

Related Blogs

View All