Cyfreithiwr ac arbenigwr anghydfodau ewyllysiau, ymddiriedolaethau ac ystadau yn rhoi hwb i gynnig Cleient Preifat Cymru
22 October 2024
Mae Richard Adams, arbenigwr mewn anghydfodau sy’n ymwneud ag ewyllysiau, ymddiriedolaethau ac ystadau, wedi ymuno â thîm Cleient Preifat HCR Law fel Partner yn swyddfa’r cwmni yng Nghaerdydd.
Wedi’i eni yng Nghymru, mae Richard yn arbenigwr yn ei faes, gyda dros 20 mlynedd o brofiad, a degawd o hwnnw ar agweddau cynhennus ar ewyllysiau, ymddiriedolaethau ac ystadau. Trwy gydol ei yrfa gyda chwmnïau Cymreig, mae Richard wedi anelu yn gyson at fod yn gyfreithiwr sy’n canolbwyntio ar bobl, ac mae’n fedrus wrth ganfod craidd unrhyw fater. Mae ei brofiad helaeth wrth ymdrin ag anghydfodau wedi dylanwadu ar ei ymagwedd ymarferol ac wrth ganolbwyntio ar y cleient mewn heriau cyfreithiol.
Mae penodiad Richard yn HCR Law yn ychwanegu at dwf parhaus swyddfa Gymreig y cwmni yng Nghaerdydd, gyda Richard yn un o dros 30 o gydweithwyr newydd sydd wedi ymuno yn ystod y 12 mis diwethaf.
Yn ddiweddar, enillodd practis Cleient Preifat HCR Law ‘Tîm Cleientiaid Preifat y Flwyddyn’ yn y categori Ewyllysiau a Phrofiant, yng Ngwobrau Cleientiaid Preifat Cyfraith Fodern. Mae arbenigedd Richard yn y maes yn ychwanegiad pellach at y tîm, a bydd yn cynghori cleientiaid ledled Cymru ar yr hyn sy’n aml yn gallu bod yn heriol – nid yn unig marwolaeth anwylyn, ond hefyd yr anghydfod sy’n dilyn dros y stad. Mae ystadegau’n dangos bod anghydfodau ynghylch ewyllysiau yn cynyddu, a hynny dros 34% ers 2017.
Dywedodd Richard: “Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â’r tîm yng Nghymru sy’n tyfu a dod â fy ngwybodaeth i’r tîm sy’n arbenigo mewn anghydfodau Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau ac Ystadau.”
“Yn aml gall anghydfodau o’r fath fod yn anodd ac yn heriol i deuluoedd a ffrindiau. Fy rôl i ydi cefnogi, gan helpu nhw i lywio trwy gymhlethdodau sefyllfa gydag eglurder a dealltwriaeth, mewn cyfnod sydd eisoes yn anodd.”
Dywedodd Beth King Smith, Pennaeth Anghydfodau Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau ac Ystadau a phennaeth tîm Cleient Preifat Worcester: “Rwy’n falch iawn o groesawu Richard i’r tîm. Gyda’i arbenigedd helaeth mewn anghydfodau Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau ac Ystadau, mae o mewn sefyllfa dda i gynghori cleientiaid ledled Cymru a thu hwnt yn ystod y broses gymhleth o gymryd camau cyfreithiol.
“Mae arbenigedd Richard hefyd yn ymestyn i’r maes amaethyddol – rhywbeth a fydd o ddiddordeb yn arbennig i gleientiaid yng Nghaerdydd a Chymru wledig – sef hawliadau estopel perchnogol, anghydfodau ffermio ac anghydfodau claddu, gan gynnwys ail-berchnogi.