Article

Kelly Davies yn Bennaeth Cyllid Eiddo yn HCR Law

21 October 2024

Mae Kelly Davies wedi ymuno â HCR Law fel Partner a Phennaeth Cyllid Eiddo.

Gyda’i harbenigedd helaeth mewn cyllid eiddo, bydd Kelly yn cryfhau cynnig arbenigol y tîm, sy’n cynnwys benthyciadau pontio, cyllid buddsoddi a chaffael, cyllid datblygu, a morgeisi prynu i osod.

Bydd Clare Day, sy’n trosglwyddo’r awenau, yn parhau i gefnogi Kelly a’r tîm i dyfu a rheoli perthnasoedd allweddol â chleientiaid, ochr yn ochr â’i chyfrifoldebau fel Pennaeth sector Gwasanaethau Ariannol y cwmni.

Mae’r tîm Cyllid Eiddo wedi profi twf sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf, gydag aelodau wedi’u lleoli’n strategol ar draws swyddfeydd HCR Law i ddarparu sylw cenedlaethol i gleientiaid. Mae’r tîm wedi llwyddo i sicrhau nifer o apwyntiadau gyda phanel benthycwyr gyda banciau traddodiadol a banciau llai, gan gynnwys apwyntiadau diweddar i baneli morgeisi a phontio arbenigol Hampshire Trust Bank.

Mae’r twf yma hefyd wedi arwain at sefydlu is-adran penodol ar gyfer morgeisi sy’n canolbwyntio ar gefnogi cleientiaid gyda buddsoddiadau benthyca prynu i osod.

Dywedodd Kelly Davies, “Rwyf wrth fy modd fy mod yn ymuno â chwmni mor ddeinamig, blaengar a thîm ag ystod mor amrywiol o arbenigedd. Mae ymuno gyda thîm Cyllid Eiddo arbenigol HCR Law yn gyfle cyffrous, ac edrychaf ymlaen at gynorthwyo ein cleientiaid ledled y wlad gyda’u hanghenion cyllido.”

Ychwanegodd Clare Day, “Rwy’n falch iawn o groesawu Kelly. Mae hi’n ychwanegiad rhagorol i HCR Law, a bydd ei harbenigedd yn cryfhau’r tîm, gan greu ystod ehangach o gyfleoedd i fusnesau ledled Cymru a Lloegr.”

Translate to English

Related news

View All