Yn gynnar ym mis Awst, symudodd Cymru i Lefel Rhybudd Sero. Roedd hynny’n rhyddhad enfawr i lawer o sectorau, yn enwedig y diwydiant lletygarwch, ond a yw hynny’n golygu bod popeth bellach yn ôl i normal? A all cyflogwyr nawr ofyn i’w holl staff fynd yn ôl i’r swyddfa? Wel, ddim yn union.
Cyhoeddwyd canllaw newydd ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru – a hynny o dan reoliad 18 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, mae’n nodi rhagor o wybodaeth am weithredu gofynion cyfreithiol o dan reoliad 16. Gellir gweld rheoliadau diwygiedig yma.
Ar gyfer cyflogwyr, mae’r darpariaethau perthnasol wedi’u cynnwys yn Rheoliad 16 sy’n nodi tri cham y mae’n rhaid i’r rhai sy’n gyfrifol am “eiddo rheoledig” eu dilyn er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â Covid-19. (Mae “eiddo rheoledig” yn cynnwys unrhyw leoliad lle mae gwaith yn cael ei wneud.) Gellir crynhoi’r tri cham fel a ganlyn ac mae’r rhain yn ofynion cyfreithiol yn hytrach na chanllawiau yn unig:
Cam 1
Rhaid cynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws yn yr adeilad ac, fel rhan o’r broses honno, rhaid ymgynghori ag unigolion sy’n gweithio yn yr adeilad neu eu cynrychiolwyr.
Cam 2
Dylid darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n dod i fewn neu’n gweithio yn yr adeilad ynghylch sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws, gan gynnwys gwybodaeth am y risgiau o ddod i gysylltiad â coronafeirws a nodwyd o dan yr asesiad risg yn Cam 1 a’r mesurau i’w cymryd o dan Gam 3 i leihau y risgiau hynny.
Cam 3
Dylid cymryd mesurau rhesymol i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws pan fydd pobl yn ymgynnull yn yr adeilad ac mae’r rhain yn cynnwys:
- Atal y rhai sydd wedi profi’n bositif, neu sydd a symptomau, rhag bod yn yr adeilad
- Cyfyngu ar ryngweithio corfforol agos trwy gynlluniau gosodiad, rheoli mynedfeydd a thramwyfeydd, rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir a gosod rhwystrau neu sgriniau
- Cyfyngu ar yr amser y mae pobl yn bresennol yn yr adeilad
- Sicrhau awyru da
- Cynnal safonau hylendid da
- Defnyddio offer PPE
Mae’r canllawiau’n nodi pum ffordd i leihau risg sy’n cael eu disgrifio fel “hierarchaeth o reolaethau”. Dangosir hyn yn y ffeithlun isod:
Mae arweiniad manwl ar bob un o’r mesurau rheoli posibl yn y canllawiau. Mae yna hefyd ganllawiau manwl ar yr hyn a allai fod yn fesur “rhesymol” a’r ffactorau i’w hystyried gan gynnwys cost, natur y gwaith, p’un ai os allai mesurau gyfaddawdu ar agweddau eraill o iechyd a diogelwch, natur a gallu pobl o fewn y gweithle (e.e. defnyddwyr gwasanaeth) ac a fydd y mesur yn ennyn hyder y gweithlu.
Mae yna adran bwrpasol ar weithio gartref. Mae’r geiriad canlynol i’w nodi ac mae’n ailadrodd geiriad y canllawiau blaenorol yn y gweithle (daeth i rym am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2020):
“Y ffordd fwyaf effeithiol o leihau’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws mewn gweithleoedd yw galluogi rhai neu pob aelod o staff i weithio gartref, mor aml â phosib. Fel “mesurau rhesymol” mae disgwyl i gyflogwyr fod yn hyblyg a gwneud addasiadau ble bynnag y bo hynny’n bosib. Er enghraifft, rhoi offer TG i staff (gliniaduron, monitorau, allweddellau), dodrefn swyddfa, ffonau symudol a hwyluso cyfathrebu ar draws lleoliadau.
Ni ddylai fod yn ofynnol i weithwyr, ac ni ddylid rhoi pwysau arnynt i ddychwelyd i leoliad gwaith os nad oes angen busnes clir iddynt wneud hynny. ”
Mae darpariaeth yn y canllawiau hefyd y dylai cyflogwyr ystyried a fyddai dychwelyd i’r gweithle yn effeithio’n arbennig o niweidiol ar les unrhyw unigolyn. Gallai hyn gynnwys pobl sydd â mwy o risg, sy’n glinigol fregus neu’r rhai a allai ddioddef pryder difrifol o ganlyniad i ddychwelyd i’r gweithle. I’r gwrthwyneb i hynny, efallai y bydd rhai staff sydd eisiau dychwelyd i’r gwaith er eu lles eu hunain a gellir ystyried hynny hefyd, er bod y canllawiau’n ei gwneud hi’n glir mai’r flaenoriaeth gyntaf yw lleihau lledaeniad y feirws.
Mae adran ar wahân ar bellhau corfforol sy’n nodi, er bod hyn yn cael ei gyfyngu yn helaeth gan faint yr adeilad, y man cychwyn yw y dylid ystyried sut y gellid cadw pobl ar wahân yn gorfforol a sut y gellid lleihau neu atal rhyngweithio wyneb yn wyneb agos. Dylai’r asesiad risg sefydlu’r nifer briodol o bobl a all fod yn bresennol yn y gweithle ac y dylid sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd e.e. trwy arwyddion.
Casgliadau
Er bod y gofyniad cyfreithiol llym i gynnal pellter dau fetr bellach wedi mynd, mae’r dyletswyddau ar gyflogwyr o dan y rheoliadau a’r canllawiau yn eithaf beichus. Mae’r byrdwn o asesu’r hyn sy’n “ddiogel” bellach wedi symud i’r cyflogwr, sy’n gorfod cynnal asesiad risg manwl.
Bydd llawer yn dibynnu ar y sector y mae’r cyflogwr yn gweithredu ynddo ac efallai y bydd y rhai sy’n wynebu’r cyhoedd, neu ym maes gweithgynhyrchu, yn gallu cyfiawnhau dod â’u holl weithwyr yn ôl i’r gweithle, er bod angen ystyried mesurau rheoli eraill. Fodd bynnag, i’r cyflogwyr hynny y mae eu gweithlu yn y swyddfa, mae cwestiwn o ran faint sydd wedi newid mewn gwirionedd. Mae pwyslais yn parhau ar weithio o gartref lle bo hynny’n bosibl, sy’n cael ei nodi fel un o’r mesurau rheoli pwysicaf i’w hystyried. Mae hyn yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru o gael 30% o weithwyr yn gweithio o, neu yn agos at y cartref. Felly, i’r mwyafrif o gyflogwyr, heblaw am y rhai sydd â swyddfeydd mawr, mae’n debygol y bydd angen iddynt ymgorffori rhyw elfen o weithio gartref yn y dyfodol rhagweladwy.