Yn dilyn tor perthynas, mae penderfyniadau anodd i’w gwneud ynglŷn â ble y bydd y plant yn byw, pryd y dylent gael cyswllt â’r rhiant arall, pa drefniadau sydd i’w gwneud ynghylch yr ysgol, gofal meddygol ac ati.
Fel arfer, bydd y rhieni’n gallu cytuno ar y trefniadau hyn ac osgoi ymyrraeth y Llys Teulu. Pan nad yw hyn yn bosib, gall y naill riant neu’r llall wneud cais am Orchymyn Trefniant Plant (CAO), gan ddod â barnwr i mewn i benderfynu pa drefniadau y dylid eu gwneud.
Wrth ystyried p’un ai i wneud CAO, lles y plentyn fydd prif ystyriaeth y llys bob amser.
Rhaid i’r llys dybio, oni bai bod y gwrthwyneb yn dod i’r amlwg, y bydd cynnwys pob rhiant ym mywyd y plentyn dan sylw yn hybu lles y plentyn.
Os yw rhiant yn gallu bod yn rhan o fywyd plentyn mewn ffordd nad yw’n peryglu’r plentyn hwnnw, ac nad yw’r rhagdybiaeth honno’n cael ei gwrthbrofi gan unrhyw dystiolaeth i’r gwrthwyneb, bydd y llys yn ystyried gwneud gorchymyn cyswllt a allai fod yn:
- gyswllt uniongyrchol (ble mae’r plentyn yn cael ymweld neu aros efo’r rhiant sy’n cael ei enwi yn y gorchymyn)
- cyswllt anuniongyrchol (megis trwy lythyr, ffôn neu ebost)
- goruchwyliaeth / cefnogaeth lle mae angen mesurau diogelwch ar gyfer y plentyn.
Rydym yn hapus i’ch cynghori chi ym mhob maes cyfreithiol sy’n gysylltiedig â thor perthynas, plant a materion ariannol.