Mae dros fis bellach wedi pasio ers i’r Goruchaf Lys roi ei ddyfarniad yn yr achos hir o Uber v Aslam. Yn y cyfamser mae peth ddyfalu am ardrawiad yr achos ar yr economi ‘gig’, yma rhoddir trosolwg o’r materion mae rhaid i fusnesau eu hystyried.
Y Dyfarniad
I’n hatgoffa, gwrthododd y Goruchaf Lys apêl Uber yn erbyn penderfyniadau’r Tribiwnlys Cyflogaeth, Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth a’r Llys Apêl.
Bu i’r dyfarniad gadarnhau penderfyniadau’r llysoedd oddi tano fod gyrwyr Uber yn ‘weithwyr’ yn hytrach na bod yn wirioneddol ‘hunangyflogedig’ fel oedd Uber wedi ei ddadlau. Fel gweithwyr, mae gan yrwyr Uber rhai hawliau cyflogaeth gan gynnwys tal gwyliau, isafswm cyflog cenedlaethol a chyfnodau seibiant.
Wrth ddod i gasgliad, dywedodd y Goruchaf Lys nad oedd rhagdybiaeth gyfreithiol fod dogfen gytundebol i gynnwys cydsyniad llwyr y partïon, a dim rheol absoliwt fod termau a osodir mewn dogfen gytundebol yn cynrychioli gwir gytundeb partïon ar sail ei arwyddo yn unig. Rhoddwyd sylw helaeth ar y lefel o reolaeth oedd gan Uber a sefyllfa economaidd y partïon. Gwelodd y Goruchaf Lys y ffactorau canlynol yn rhai arbennig o berswadiol:
- Roedd yna system raddio mewn lle, a phe byddai gradd gyrrwr yn cwympo yn is na lefel benodol, roedd posib iddynt wynebu cosb neu derfynu cytundeb
- Roedd prisiau yn cael eu gosod gan Uber a doedd gan y gyrwyr ddim dylanwad ar hynny
- Roedd gyrwyr yn cael eu hannog i beidio ag ymrwymo i gytundebau tu allan i ap Uber.
- Roedd gyrwyr yn wynebu cosbau am ganslo neu wrthod teithiau
Beth mae hyn yn ei olygu?
Gall y gost i Uber, neu unrhyw fusnes arall, o ddyfarniad fod eu staff hunangyflogedig mewn gwirionedd yn weithwyr fod o bosib yn ddinistriol. Mae’r penderfyniad yn golygu fod gyrwyr, fel gweithwyr, a hawl i’r gyfradd isafswm cyflog cenedlaethol, tal gwyliau statudol (5.6 wythnos y flwyddyn) yn ogystal â hawliau o dan ddeddfwriaeth chwythu’r chwiban a gwahaniaethu. Mae Uber nawr yn debygol o wynebu hawliadau arwyddocaol am ôl-daliad ac iawndal, yn benodol o’r farn fod gyrwyr yn ‘weithwyr’ o’r eiliad mae’r ap yn cael ei droi ‘mlaen, a’u bod ar gael ar gyfer gwaith hyd i’r ap gael ei ddiffodd.
Goblygiadau pellach: a’i hyn yw diwedd yr economi ‘gig’?
Efallai ddim, mae’r model yn cynnig hyblygrwydd a gall weithio yn dda i fusnesau a’r rhai sydd yn gweithio iddynt. Fodd bynnag, mae’n dod yn gynyddol glir fod tribiwnlysoedd a llysoedd uwch yn wyliadwrus o fodelau gwaith sy’n cam-fanteisio. Dylai busnesau sydd am barhau i weithio o fewn y diwydiant ‘gig’ felly adolygu eu modelau busnes i warchod rhag hawliadau statws cyflogaeth yn y dyfodol. Yn arbennig:
- Dewis – bydd unigolyn yn debygol o gael ei ystyried yn ‘weithiwr’ ble mae cyfyngiad ar wneud penderfyniadau personol a bo busnes yn cadw lefel uchel o reolaeth. Mae cynnig hyblygrwydd o ran sut mae eu hincwm yn cael ei gynhyrchu yn fwy tebygol o fod yn arwydd o statws hunangyflogedig.
- Cytundebau – beth bynnag fo’r ddarpariaeth gytundebol, bydd tribiwnlysoedd yn edrych ar y gwirionedd ymarferol o’r berthynas busnes, felly dylai’r telerau ysgrifenedig adlewyrchu hynny.
- Cosbau – mae system o gosbi unigolyn am adolygiadau cwsmer gwael yn debygol o gael ei ystyried fel ffordd o gadw rheolaeth.
- Cyfyngiadau – mae cyfyngu ar allu unigolyn i dderbyn gwaith arall neu ddisgwyl iddynt ymgymryd â lleiafswm o waith yn debygol o fod yn arwydd o reolaeth a thrwy hynny statws ‘gweithiwr’.
- Apiau – Bydd angen i fusnesau sydd yn dyrannu gwaith trwy apiau adolygu eu telerau yn ofalus yng ngoleuni’r farn fod gyrwyr Uber yn gweithio pryd bynnag yr oeddent wedi mewngofnodi ac ar gael i weithio.
- Treth – Mae CThEM yn adnabod statws cyflogedig a hunangyflogedig yn unig, nid yw’n adnabod statws ‘gweithiwr’ rhyngol. Dylid cael cyngor ar statws treth gywir gweithwyr.
Yn gryno, po fwyaf y rheolaeth sydd yn cael ei gadw gan y busnes dros yr unigolyn a sut maen nhw yn gweithredu yn eu gwaith, y mwyaf fydd y siawns fod gan yr unigolyn statws ‘gweithiwr’.
Wrth gwrs, gall fod rhesymau dilys pam fod busnes am gadw rheolaeth dros y sawl sydd yn gweithio iddynt, gan gynnwys i sicrhau lefel arbennig o wasanaeth cwsmer ac i amddiffyn enw da a brand. Fodd bynnag, gall busnesau nawr orfod dewis rhwng yr hyblygrwydd a chost ostyngol a gynigir gan y model ‘gig’ a mwy o reolaeth, o’r model busnes ‘gweithiwyr’ sydd â chost uwch.